Rhif y ddeiseb: P-06-1323

Teitl y ddeiseb: Gofynnwn i Lywodraeth Cymru brynu Neuadd Dewi Sant fel adnodd cenedlaethol i Gymru

Geiriad y ddeiseb:  Dyma gri o’r galon rhag i bobl Cymru golli adnodd diwylliannol hanfodol. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gamu i’r adwy.

Byddai trosglwyddo’r cyfrifoldeb dros reoli Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru i gorff masnachol yn peryglu adnodd sy’n rhan hanfodol a llewyrchus o fywyd cymunedol a diwylliannol Caerdydd ac, yn anochel, yn effeithio ar seilwaith creadigol ehangach Cymru.

Caiff dros 330 o berfformiadau eu cynnal yn y Neuadd bob blwyddyn, llawer ohonynt yn ennyn sylw cenedlaethol a rhyngwladol, ac yn denu pobl o bob cwr o Gymru ac mae hefyd yn denu canran uwch o ymwelwyr o Loegr nag unrhyw leoliad arall yng Nghymru.

Hon yw’r unig neuadd gyngerdd gerddorfaol yng Nghymru a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer cerddorfa lawn. Dyma gartref cystadleuaeth Cardiff Singer of the World, Cerddorfa Genedlaethol Cymru a’r Gyfres Cyngherddau Rhyngwladol - ynghyd â pherfformiadau diwylliannol amrywiol gan gynnwys ballet, cerddoriaeth bop/roc, jazz a gwerin a pherfformiadau gan ddigrifwyr.

Mae’r lleoliad yn rhoi cyfle i bobl o bob oed gyfranogi ac ymgysylltu’n greadigol, ac mae’n adnodd cymunedol ac yn adnodd dysgu amhrisiadwy i bobl Caerdydd a Chymru gyfan.


1.        Y cefndir

Ym mis Rhagfyr 2022, cymeradwyodd Cyngor Caerdydd gynnig mewn egwyddor gan Academy Music Group i gymryd yr awenau wrth redeg Neuadd Dewi Sant fel Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru, drwy brydles hirdymor. Yn ôl papurau’r Cyngor :

The Council has only been able to afford to implement a basic maintenance programme to cover general wear and tear amounting to circa £2m of capital and circa £600k of revenue over the last 10 years. This has become increasingly insufficient as the building has grown older.

A:

The allocated revenue subsidy from the Council for St David’s Hall is £688,700 in the current year. However, the venue regularly achieves lower box office revenue than forecast and as such the actual level of Council financial support regularly exceeds £1m per annum. The unallocated budget spend is required to be absorbed within wider directorate budgets and each year this is becoming increasingly difficult to achieve due to the growing pressure on Council budgets. This problem will be magnified significantly in the next financial year as the Council is forecasting a revenue budget shortfall of circa £53m.

Ystyriodd y Cyngor ddau opsiwn ar gyfer gweithredu Neuadd Dewi Sant yn y dyfodol:

Opsiwn 1 - rhagdybio buddsoddiad cyfalaf gan y Cyngor ar gyfer atgyweirio ac adnewyddu eiddo yn unol â chyngor proffesiynol a pharhad y cymhorthdal cyllideb blynyddol o £688,700 dros gyfnod o 40 mlynedd.

Opsiwn 2 – cynnig AMG, sy'n gofyn am ddim buddsoddiad cyfalaf gan y Cyngor a dim cymhorthdal refeniw blynyddol. O’i gymharu ag Opsiwn 1, mae'r opsiwn hwn yn cynnig arbediad i'r Cyngor sy’n cyfateb i £133 miliwn drwy raglen ad-dalu cyfalaf 40 mlynedd.

Cytunodd y Cyngor mewn egwyddor i fynd ar drywydd opsiwn 2.

 

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Ar 1 Rhagfyr 2022, ymatebodd Llywodraeth Cymru i Gwestiwn Ysgrifenedig gan Rhys ab Owen AS, sef: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Chyngor Caerdydd ynglŷn â sicrhau dyfodol cynaliadwy hirdymor ar gyfer Neuadd Dewi Sant, Caerdydd?

Dywedodd yr ymateb fod dyfodol y lleoliad yn fater i Gyngor Caerdydd; ni chyfeiriwyd at unrhyw drafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd. Mae llythyr gan Gyngor Celfyddydau Cymru (gweler adran 3 isod) yn awgrymu bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o drafodaethau am ddyfodol y Neuadd ers hynny.

Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog ar 29 Tachwedd 2022 dywedodd y Prif Weinidog:

[M]ae'n rhy gynnar i bryderu dwi'n meddwl, achos dŷn ni ddim yn gwybod digon o fanylion. Dwi wedi cael cyfle heddiw i siarad ag arweinydd y cyngor yma yng Nghaerdydd, a dwi'n siŵr fod e'n ymwybodol o bob pwynt mae Rhys ab Owen wedi eu codi. So, mae'n gwneud y gwaith gyda nid jest un cwmni ond mwy nag un cwmni sydd wedi dangos diddordeb i gydweithio â'r cyngor dros ddyfodol Neuadd Dewi Sant.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi ysgrifennu at Gyngor Caerdydd a Chyngor y Celfyddydau ynghylch dyfodol Neuadd Dewi Sant.

Gellir darllen copïau o'r llythyrau a'r ymatebion yma. Mae llythyr Cyngor y Celfyddydau (dyddiedig 12 Rhagfyr 2022) yn nodi “Mae nifer o drafodaethau wedi bod ynglŷn â'r mater yma sydd wedi cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru”.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.